Hyfforddwyr
Proffil Hyfforddwr: Kevin Hamilton
Mae Kevin wedi bod yn ymwneud â thriathlon ers 15 mlynedd, ac roedd yn un o sefydlwyr Clwb Triathlon Cerist. Bu’n rhan o dimau Cymru a Phrydain am flynyddoedd, gan gystadlu mewn tair Pencampwriaeth y Byd – 1999, 2000 a 2002, Pencampwriaethau Ewrop 2005 ac yn aelod o Garfan Cymru yng nghystadlaethau Prydain 2003 a 2004. Mae ei frwdfrydedd dros y gamp yn heintus, gan gyfrannu’n helaeth at y cynnydd yn y nifer sy’n cymryd rhan mewn Triathlon yn yr ardal.
Llwyddiant |
||
Pencampwriaethau’r Byd 1999 ym Montreal – 2il yn y cat 35-39 |
Triathlon Sprint Cymru – 3ydd 1998, 3ydd 2003 |
|
Enillydd Grand Prix Cymru 1998 |
Pellter Olympaidd Cymru – 2il 1998 a 3ydd 2000. |
|
Aquathlon – Pencampwriaethau Prydain 2003 – 2il (cat 35-39) |
Pellter Olympaidd – 2 awr a 6 munud. |
|
Pellter Sprint – 59 munud a 57 eiliad |
Ironman 70.3 – 4 awr a 45 munud. |
|
Gwobrau Chwaraeon Sir Drefaldwyn: Enwebwyd yn 2008/9 am lwyddiant arbennig a chyfraniad tuag at chwaraeon. |
||
Campau’r Ddraig: enwebiad am wirfoddolwr y flwyddyn 2007 ac enillydd 2008 |
||
Cymwysterau Proffesiynol a Hyfforddi |
||
Corff Llywodraethol |
Lefel |
|
Prifysgol Cymru 2003 |
BA(Anrh) a TAR mewn Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol |
|
Triathlon Prydain 2007 |
Hyfforddwr Lefel 2 |
|
OCR (Oxford and Cambridge RSA) 2008 |
Hyfforddwr Ystafell Ffitrwydd Lefel 2 (ymarfer a ffitrwydd, anatomi a ffisioleg) |
|
Pulse Fitness 2005 |
Hyfforddwr Seiclo Grwp |
|
VT Training 2010 |
Hyfforddwr Ymarfer Cylched Lefel 2 |
|
HeartStart |
Cynnal Bywyd mewn Argyfwng |
|
Sports Coach UK 2010 |
Amddiffyn Plant |
|
Yswiriant |
Yswiriant trwy’r BTF ac Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus i hyfforddwyr ffitrwydd - £5m (safon y diwydiant) |
|
Sesiynau cynefino a chynlluniau hyfforddi penodol ar gael yn addas ar gyfer eich anghenion |
Proffil Hyfforddwr: Kim Brett
Gorffennodd Kim ei thriathlon cyntaf yn 1999, ac yna cafodd egwyl hir tan iddi ymuno â chlwb Cerist yn 2006. Gyda chefndir ym maes hyfforddi ffitrwydd yn mynd yn ôl bron i 15 mlynedd, roedd wrth ei bodd yn cael dod yn rhan o’r tîm hyfforddi. Mae’n awyddus i helpu pobl o bob gallu i gymryd rhan mewn Triathlon ac i wella eu hiechyd a’u ffitrwydd ar bob lefel, trwy ystod eang o ddulliau hyfforddi ac ymwybyddiaeth o faeth. Mae Kim yn astudio i fod yn Hyfforddwr Personol ar hyn o bryd. Mae ei chymwysterau presennol yn caniatáu iddi gymryd sesiynau ymarfer cylched, ymarfer turbo, sesiynau nofio yn y pwll yn niwrnodau hyfforddi’r clwb a sesiynau rhedeg grŵp a sesiynau beic sydd ddim ar ffyrdd cyhoeddus. Mae Kim hefyd yn cynnig cyngor a dadansoddiad maeth.
Cymwysterau Hyfforddi |
|
Corff Llywodraethu |
Lefel |
Ffederasiwn Triathlon Prydain |
Hyfforddwr Lefel 1 nofio, seiclo, rhedeg (2009) |
Register of Exercise Professionals (Reps) level 2 Active Training |
RSA ymarfer i gerddoriaeth (1996) Erobeg Step (1996) Aqua fit (1996) Hyfforddwr Ystafell Ffitrwydd (1996) Ymarfer Cardiofasgwlaidd ac Ymwrthedd (cylched) (1996) Profi Ffitrwydd (1996) |
Reps level 2 Lifetime Fitness |
Seiclo Stiwdio (2010) Maeth/rheoli pwysau (2010) Hyfforddwr ystafell ffitrwydd a hyfforddwr personol uwch – (ar waith) |
Yswiriant |
Yswiriant trwy’r BTF ac Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus i hyfforddwyr ffitrwydd - £5m (safon y diwydiant) |
Rhaglenni hyfforddi personol, maeth a rheoli pwysau ar gael ar gais |