Newyddion y Clwb
Lansio Gwefan Newydd
Croeso i wefan newydd Clwb Triathlon Cerist. Gobeithio y byddwch yn hoff ohoni ac yn ei gweld yn hawdd canfod eich ffordd o’i chwmpas. Y nod yw gallu defnyddio’r wefan i ddweud am ddigwyddiadau a sesiynau hyfforddi sy’n dod, a chynnwys rhai o’ch straeon a lluniau o’r hyn rydych chi wedi bod yn ei wneud. Rhowch wybod am rasys byddwch yn cymryd rhan ynddynt, a sut aeth pethau. Mae’r calendr yn nodwedd newydd a fydd yn rhoi gwybod i chi am y gweithgareddau sy’n dod. I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw weithgaredd, cliciwch arni yn y calendr, a bydd hynny’n mynd â chi at y manylion llawn a’r ffurflen gais. Felly beth am gael cip o amgylch y wefan, a chofiwch roi gwybod beth rydych chi’n ei wneud. Anfonwch luniau a manylion unrhyw weithgareddau at enquiries@ceristtriathlon.org.uk, i ni eu cynnwys ar y wefan. Diolch am eich amynedd wrth i ni greu’r wefan newydd, a gobeithio y bydd yn llwyddiant.