Newyddion y Clwb
Adroddiadau Ras y Bala
Aeth Richard Taylor draw am y Bala gydag 8 aelod arall o Glwb Triathalon Machynlleth ar gyfer ei ail driathlon pellter safonol (1500m o nofio dwr agored, 40km ar y beic a rhedeg 10k). Roedd y tywydd yn iawn, ond yn wyntog, gyda’r gwynt yn codi tonnau 2 droedfedd ar lyn Tegid, sydd fel arfer yn eithaf llyfn. Daeth yr hyn sydd fel arfer yn nofiad hir yn dipyn mwy o her, a nofio allan at y man troi nôl yn dod yn fwy o frwydr i oroesi, wrth geisio anadlu a symud tuag ymlaen. Roedd y ‘wetsuit’, y tywydd oer a’r diffyg dwr clir a dim marciau lôn ar waelod y llyn yn ei gwneud yn hollol wahanol i nofio yn y pwll. Ac fel arfer, nofiais yn igam ogam ar hyd y cwrs.
Un ai mi lwyddais i ddod o hyd i fy rhythm neu fe helpodd y gwynt dipyn arna i ar y ffordd yn ôl. Gan mai’r nofio yw’r agwedd wanaf i fi, roeddwn yn ôl tua chefn y ras, ond roedd yn rhaid i 28 o bobl ddod yn ôl i’r lan mewn cwch, felly dydw i ddim yn teimlo’n rhy ddrwg. Llwyddais i fynd heibio ambell un ar y beic (rydw i wastad yn synnu sut bod cymaint o rai’n cael trafferth gyda’u beic mewn triathlon). Cefais drafferth i gael y coesau i symud wrth redeg – mae nhw fel petaent wedi anghofio sut i redeg erbyn hynny. Mae’n siwr nad oedd yfed gormod o’r llyn a diod ar y beic heb helpu. O fynd yno yn gobeithio gorffen, llwyddais i wneud hynny gydag amser parchus o 2:58:22, 403ydd allan o 492 a orffennodd a 586 oedd wedi cofrestru.